Marwolaeth dyn o Gaerdydd yn Lerpwl: Arestio dau arall
- Cyhoeddwyd

Mae plismyn sy'n ymchwilio i drywanu angheuol dyn o Gaerdydd yng nghanol Lerpwl wedi arestio dau berson arall.
Bu farw Fatah Warsame, 20, wedi'r digwyddiad yn oriau man fore Sul, 6 Mai.
Cafodd dyn 33 oed a dynes 24 oed eu harestio yn ardal Toxteth ddydd Sadwrn ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau wrth i'r ymchwiliad barhau.

Bu swyddogion fforensig yn archwilio'r ardal yng nghanol Lerpwl
Mae tri dyn gafodd eu harestio yr wythnos ddiwethaf - 20, 21 a 24 oed - wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad hefyd.
Yn y cyfamser mae Heddlu Glannau Mersi yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2018
