Perygl mwd meddal: "Mae'ch bywyd yn mynd o'ch blaen chi"

Mae 'na alw am fwy o arwyddion i rybuddio am fwd meddal peryglus ar draeth poblogaidd yn Sir y Fflint.

Mae un dyn lleol wedi disgrifio'r profiad brawychus o gael ei sugno i ganol y mwd ar lan y môr Talacre.

Ond yn ôl Cyngor Sir y Fflint, mae arwyddion wedi eu gosod mewn lleoliadau strategol i rybuddio cerddwyr.

Adroddiad Siôn Pennar.