Cau Pont Menai ar gyfer ffilmio yn 'jôc'
Wrth i Bont Menai gau fore Sul a chael ei thrawsnewid yn set ffilm, nid pawb oedd yn falch o weld un o atyniadau hanesyddol enwocaf Cymru ar fin ymddangos mewn ffilm Hollywood.
Roedd ochr Bangor o'r bont wedi'i thrawsnewid tra bod golygfa ar gyfer 'The Voyage of Dr Dolittle', sy'n cynnwys yr actor enwog Robert Downey Jr yn y brif ran, yn cael ei ffilmio.
Roedd traffig yn cael ei ddargyfeirio at Bont Britannia er mwyn cyrraedd a gadael Ynys Môn.
Roedd cerddwyr hefyd yn cael eu hatal rhag croesi Pont Menai ac yn cael cynnig lifft mewn bws mini pan oedd y bont yn agor pob ugain munud.
Dyma ymateb Steven Owen o Fangor.