Conwy'n cyflogi llai i swyddi 'Cymraeg yn ddymunol'
- Cyhoeddwyd

Mae canran y Cymry Cymraeg sy'n cael eu cyflogi gan Gyngor Conwy mewn swyddi lle mae siarad yr iaith yn hanfodol neu'n ddymunol wedi gostwng yn sylweddol.
Erbyn hyn mae llai na hanner y rheiny sydd wedi'u cyflogi gan y cyngor mewn swyddi o'r fath yn siaradwyr Cymraeg.
Mae'r ffigyrau newydd yn yr adroddiad yn dangos fod y canran wedi gostwng o 84% ddwy flynedd yn ôl i 48% eleni.
Dywedodd y cyngor eu bod nhw'n bwriadu newid y ffordd y maen nhw'n hysbysebu swyddi fel un ffordd o daclo'r cwymp.
'Dychryn ymgeiswyr'
Mae'r cyngor yn bwriadu cyflwyno categori newydd o swydd, ble mae medru'r iaith yn "fanteisiol" yn hytrach na "hanfodol" neu "dymunol".
Byddai hynny'n golygu y byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn ffactor allweddol petai dau ymgeisydd cyfartal yn ceisio am swydd.
Yn ôl Nia Llwyd Lewis, rheolwr gwasanaethau Cymraeg y cyngor, mae gofyn i'r Gymraeg fod yn sgil "hanfodol" weithiau'n gallu "dychryn rhai ymgeiswyr rhag ceisio am swyddi".
Ffordd arall i adfer y sefyllfa, yn ôl y cynghorydd Wyn Ellis Jones, fyddai cyflogi siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu cyflawni'r swyddi sydd ei hangen.
"Weithiau mae hi'n haws cyflogi siaradwr Cymraeg ac yna eu hyfforddi i allu gwneud y swydd," meddai.
Dywedodd ei fod yn poeni fod swyddi lle dylai'r iaith fod yn hanfodol yn cael eu hysbysebu fel rhai dymunol, gan grybwyll un enghraifft o swydd mewn ysgol yng Nghonwy.
'Awdurdod dwyieithog'
Ddwy flynedd yn ôl 84% o'r rhai mewn swyddi lle'r oedd siarad Cymraeg yn hanfodol, fanteisiol neu'n ddymunol oedd yn gallu'r iaith, ac fe wnaeth hynny ostwng i 68.5% yn 2016-17.
Disgynnodd y ffigwr hwnnw ymhellach eleni i 48% o staff.
O'r 264 swydd gafodd eu hysbysebu lle'r oedd siarad Cymraeg yn ddymunol, cafodd 243 o bobl eu penodi, gyda 68 yn rhugl yn y Gymraeg.
Er gwaetha'r cwymp diweddar dywedodd y cynghorydd Anne McCaffrey, yr aeloda cabinet dros ddemocratiaeth, y gyfraith a moderneiddio, fod yr adroddiad ei hun yn arwydd o agwedd bositif y cyngor tuag at yr iaith.
"Mae Conwy yn falch i fod yn awdurdod dwyieithog, ac mae ein timau ni wedi gweithio yn galed i gydweithredu a'r 167 o safonau Cymraeg," meddai.