30 mlynedd ers ffrwydrad ffatri Cookes a laddodd dau
Mae hi'n 30 mlynedd ers i ffrwydrad ar safle hen waith powdwr ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd ladd dau o'r gweithwyr.
Ffatri cynhyrchu ffrwydron Cookes oedd cyflogwr mwya'r ardal ar y pryd.
Ar ei hanterth adeg yr Ail Ryfel Byd roedd 600 o bobl yn gweithio yn y ffatri ond daeth y cyfan i ben yn 1995, saith mlynedd ar ôl y ddamwain.
Cafod Ken Williams o Landecwyn a Dei Williams o Flaenau Ffestiniog eu lladd gan y ffrwydrad yn 1988.
Gweithdai a gwarchodfa natur sydd ar y safle bellach.