Tân Casnewydd: Pryderon wedi eu mynegi
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y tân ledu o hen adeilad cyn glwb nos
Mae wedi dod i'r amlwg fod pryderon wedi eu mynegi am adeilad gwag yng Nghasnewydd ddyddiau cyn i dân losgi eglwys yn ulw.
Cafodd Eglwys Gymunedol Bethel, sy'n adeilad rhestredig, yn ardal Stow Hill ei dinistrio ar ôl i'r fflamau ledu o adeilad gwag oedd yn gyn glwb nos.
Dywed Heddlu Gwent fod dyn 43 oed a menyw 36 o ardal Casnewydd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol a'u bod yn parhau i gael eu holi.
Maen nhw hefyd yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad "a all fod o gymorth wrth geisio adnabod pobl oedd y tu mewn i'r cyn glwb nos tua 18:00 nos Wener," meddai llefarydd.
"Rydym yn parhau i weithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chyngor Casnewydd i ddarganfod beth achosodd y tân."
Bu tua 95 o ddiffoddwyr yn ceisio rheoli'r sefyllfa nos Wener, gyda'r tân dal yn fudlosgi fore Sadwrn.
Cafodd 40 o bobl o dai cyfagos eu symud i Ganolfan Hamdden Casnewydd wrth i ddiffoddwyr geisio rheoli'r fflamau.
Y gred yw, yw na chafodd unrhyw un ei anafu.
Ond mae wedi dod i'r amlwg fod pryderon wedi eu codi am adeilad y cyn glwb nos.
Tân yn difrodi hen eglwys
Dywed Ceidwadwyr Casnewydd eu bod wedi anfon e-bost i'r cyngor ar 7 Mehefin yn gofyn i swyddogion archwilio'r adeilad, cyn gartref clwb nos Zanzibar, oherwydd "pryder y gallai'r adeilad ddymchwel neu fynd ar dân."
Mae'r cyngor eisoes wedi cynnal 'archwiliad gorfodol.'
Ond dywed y grŵp Torïaidd eu bod eisiau ymchwiliad i weld pam na wnaeth y cyngor gynnal "arolwg llawn o'r safle" gan honni na wnaeth swyddogion fynd i mewn i'r adeilad.

Eglwys Bethel, bore Sadwrn
Dywed Michael Enea, Ceidwadwr lleol, fod yna bryderon am gyflwr yr adeilad a'i fod wedi anfon e-bost i'r cyngor ar ôl i drigolion gysylltu ag ef.
Mae hefyd yn dweud i fideo ymddangos ar-lein yn dangos pobl yn cerdded o amgylch yr adeilad gwag, oedd yn adfail ac yn llawn gwifrau.
Fe wnaeth y tân ddechrau yn y cyn glwb nos cyn lledu i'r eglwys, tua 18:00 nos Wener.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd, y bydd ffyrdd o amgylch Stow Hill yn parhau ar gau i gerbydau a cherddwyr tan ddydd Llun, pan fydd contractwyr yn asesu'r sefyllfa.
"Mae'r holl drigolion, ac eithrio dau dŷ, wedi dychwelyd i'w tai.
"Fe fydd llety brys yn cael ei ddarparu," meddai'r llefarydd.
"Byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth.
"Rydym yn deall fod yr heddlu wedi arestio pobl ac felly byddai'n amhriodol i wneud sylw pellach am yr amgylchiadau."

Mae Eglwys Bethel yn dyddio nol i'r 1880au
Ddydd Sadwrn dywedodd y gweinidog Andrew Cleverly: "Mae ein hadeilad wedi mynd, ond mae'r eglwys yn parhau yn fyw."
"Mae'r adeilad wedi ei ddinistrio, dim ond y pedwar wal sydd ar ôl. Mae'n drist iawn - roedd lot o bobl yn dal dwylo ac yn llefain - doedd yna ddim byd oedd rhywun yn gallu ei wneud."
Dywedodd datganiad ar wefan yr eglwys: "Diolch i bawb am weddïo ac am eu cefnogaeth. Rydym wedi ein tristau gan y tân dinistriol yma."
Mae ymchwiliad i achos y tân wedi dechrau.

Dywedodd y gweinidog Andrew Cleverly y bydd yn cynnal oedfa yn y maes parcio fore Sul

Roedd y mwg a'r tân i weld ar draws y ddinas
