Joe Allen yn arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda Stoke
- Cyhoeddwyd

Wedi wythnosau o ddyfalu, mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen wedi arwyddo cytundeb newydd gyda chlwb Stoke City.
Roedd nifer wedi credu y byddai Allen yn gadael Stoke wedi iddyn nhw ddisgyn o'r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor.
Ond mae Allen - a ymunodd gyda Stoke o Lerpwl yng Ngorffennaf 2016 - wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r clwb am bedair blynedd arall.
Ar wefan y clwb dywedodd Joe Allen: "Fel chwaraewyr rhaid i ni ysgwyddo'r cyfrifoldeb am yr hyn ddigwyddodd y tymor diwethaf.
"Weithiau mewn pêl-droed pan mae pethau'n mynd o'i le, mae chwaraewyr yn ceisio golchi'u dwylo o'r peth ond rwy'n gobeithio y bydd mwy o'r bois â'r un nod o geisio cywiro pethau a helpu'r clwb yma i ddod yn syth nôl (i'r Uwch Gynghrair)."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2016
