Clywodd y cwest fod y ddynes wedi marw o hypothermia
- Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth dynes mewn gwersyll gwyliau ger Machynlleth wedi clywed ei bod hi wedi mynd yn sownd mewn cwpwrdd crasu.
Fe geisiodd Elizabeth Isherwood, 60 oed o Wolverhampton, dorri drws y cwpwrdd i lawr gan ddefnyddio silffoedd a pheipen ddŵr ond methu wnaeth hi.
Drwy dorri'r beipen ddŵr cafodd hi ei gwlychu, a hynny yn y pendraw arweiniodd ati yn marw o hypothermia.
Ni chafodd ei chorff ei ddarganfod am wythnos.
Cafodd marwolaeth trwy anffawd ei gofnodi gan y crwner.
Roedd Ms Isherwood yn aros ym Mhlas Talgarth ym Mhennal, Gwynedd ym mis Medi 2017.
Clywodd y cwest ei bod hi wedi mynd fewn i'r cwpwrdd yng nghanol y nos neu yn yr oriau man y bore pan dorrodd bwlyn y drws yn ddarnau, a'i chloi i mewn.
Pan gafodd hi ei darganfod gan weithwyr roedd twll yn y wal lle yr oedd hi wedi ceisio torri'n rhydd.
Dywedodd crwner gogledd orllewin, Dewi Pritchard Jones, y bod hi'n ymddangos fel ei bod hi wedi mynd yn sownd ar y noson y cyrhaeddodd hi, ond ei bod hi'n "anodd gwybod yn union bryd y bu hi farw".