Y Seintiau Newydd i wynebu KF Shkendija o Macedonia
- Cyhoeddwyd

Bydd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd yn chwarae KF Shkendija yn y rownd ragbrofol gyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr eleni.
Fe gafodd yr enwau eu tynnu o'r het ym mhencadlys UEFA yn Nyon, Y Swistir ddydd Mercher.
Bydd Y Seintiau yn chwarae oddi cartref ym Macedonia yn gyntaf ar 10 neu 11 Mehefin gyda'r ail gymal i gael ei chwarae yng Nghroesoswallt ar 17 neu 18 Mehefin.
Bydd tîm Scott Ruscoe yn gobeithio ennill dros y ddwy gymal er mwyn camu ymlaen i'r ail rownd ragbrofol.
Os bydd Y Seintiau'n llwyddianus yn erbyn KF Shkendija, eu gwrthwynebwyr yn yr ail rownd fydd enillydd y gêm rhwng FC Torpedo Kutaisi o Georgia a FC Sheriff o Moldova.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2018
