Gêm i gyflwyno'r eisteddfod i ymwelwyr castell
Mae gêm ryngweithiol newydd ddwyieithog wedi ei datblygu i gyflwyno'r eisteddfod i ymwelwyr â chastell Aberteifi.
Cafodd y gêm ei dyfeisio gan y cynhyrchydd teledu a ffilm, Carol Byrne Jones, gyda chymorth y Prifardd Ceri Wyn Jones, y dylunydd a'r animeiddwraig Tanya Griffiths a'r arbenigwr meddalwedd Steve Knight.
Y bwriad yw cyflwyno agweddau cystadleuol o'r eisteddfod mewn dull hwylus a diddorol, nid yn unig i Gymry sy'n gyfarwydd â'r traddodiad, ond hefyd i ymwelwyr â'r castell o wledydd eraill.
Roedd Ceri Wyn Jones yn gyfrifol am greu agwedd farddonol y gêm, sy'n herio ymwelwyr i greu cwpled cynganeddol.