Dwyn £57,000 o beiriant twll yn y wal
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn ei arestio ddiwrnod wedi'r lladrad yng Ngholeg Penfro yn Hwlffordd
Mae heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ladrad yng Ngholeg Penfro, Hwlffordd, ar ôl i £57,000 gael ei ddwyn o beiriant twll-yn-y-wal yno.
Yn ôl yr heddlu, fe wnaeth rhywun dorri mewn i'r coleg ar ddydd Llun, 11 Mehefin, a difrodi'r peiriant cyn dwyn yr arian.
Cafodd dyn 62 oed ei arestio ar amheuaeth o ladrata, ond mae e bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Elaine Bendle: "Er ein bod wedi arestio rhywun rydyn ni'n awyddus i siarad gyda unrhyw un a welodd beth digwyddodd, neu sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i ni gyda'n ymchwiliad, dim gwahaniaeth pa mor ddibwys, ac yn gofyn iddyn nhw gysylltu â ni."