Achub dau ffrind a chi o chwarel yn Sir Caerffili
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ffrinidau a'r ci eu hachub gan arbenigwyr rhaffau ac aelodau o wasanaeth tân ac achub y de.
Fe gafodd dau ffrind a chi eu hachub ar ôl mynd i drafferthion mewn hen chwarel ger Caerffili.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru alwad 999 tua 14:15 ddydd Sadwrn yn dweud fod dyn yn "dal ei afael" mewn coeden uwchben y chwarel yn Rhisga.
Cafodd swyddogion tân ac arbenigwyr rhafau eu hanfon at y dyn, a ddywedodd ei fod yn "argyhoeddedig" na fydden nhw'n dod o hyd iddo mewn pryd.
Siaradodd un o swyddog y gwasanaeth ar y ffôn gyda'r dyn am 45 munud, tra bo'r criwiau'n dod o hyd iddo.
Cafodd ffrind iddo a chi eu hachub hefyd.
Llwyddodd trydydd person i gyrraedd man diogel heb gymorth.
Chafodd neb ei anafu.