Cwest: Awyren wedi 'troi' cyn taro'r ddaear
- Cyhoeddwyd

Roedd Scott Penlington a Nick Jefferies yn hedfan o Gaer i Abertawe adeg y ddamwain
Clywodd cwest i farwolaeth dau ddyn fod yr awyren fechan yr oeddwn nhw'n teithio ynddi wedi cael ei gweld yn troi yn yr awyr eiliadau'n unig cyn plymio i'r ddaear.
Cafodd cyrff y peilot, Nick Jefferies, a Scott Penlington, a oedd yn gyfaill i'w fab, eu darganfod yng ngweddillion yr awyren Eurostar EV-97 ar dir fferm yng Nghwmbach ger Llanelwedd fis Medi 2016.
Roedd y ddau ar eu ffordd i Abertawe ar y pryd, i ymweld â mab Mr Jefferies.
Ym mis Chwefror daeth y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr i'r casgliad bod y peilot siwr o fod "wedi ceisio adfer symudiad a wnaeth drwy gamgymeriad".
Clywodd y cwest yn y Trallwng gan ferch perchennog y fferm, Rebecca Fleck, a ddywedodd ei bod hi'n cerdded gyda grŵp o ffrindiau ar y pryd a'i bod wedi gweld yr awyren yn hedfan.
Dywedodd Ms Fleck ei bod hi wedi meddwl ar y pryd fod yr awyren wedi codi yn annaturiol o uchel, cyn dechrau dod yn ôl i lawr.
Fe ddisgrifiodd hi weld un o'r adenydd "wedi plygu" a'i fod yn "troi a throsi i bob cyfeiriad" cyn clywed rhywbeth yn taro'r ddaear.
Fe wnaeth un o ffrindiau eraill Ms Fleck, Alison Lloyd, ddisgrifio sut y dywedodd aelod arall o'r grŵp cerdded fod angen i'r awyren 'newid gêr', ond na chymrodd hi fawr o sylw o hynny ar y pryd.
Dywedodd Ms Lloyd, ei bod hi yn fuan wedi hynny wedi gweld yr awyren yn dod yn "syth i lawr... ac yn troi a throi".
Clywodd y cwest fod y peilot, Mr Jefferies, wedi hedfan am 350 awr ers iddo gymhwyso i hedfan awyren yn 2014.
Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad fod y ddau wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol.
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2018

- Cyhoeddwyd23 Medi 2016
