Plaid Cymru'n bygwth gwrthwynebu cynllun iaith Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Sian Gwenllian nad oedd yn "briodol" dibynnu ar ewyllys da at yr iaith
Ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi cynlluniau'r llywodraeth i gryfhau'r iaith Gymraeg yn eu ffurf presennol, yn dilyn "cyfres hir" o achosion o amarch at yr iaith gan sefydliadau'r sector preifat.
Daw ar ôl i gadeirydd cwmni Trago Mills gael ei feirniadu'r wythnos diwethaf am sylwadau "gwrth-Gymraeg" a "sarhaus iawn" am yr iaith.
Mae Plaid Cymru'n dweud bod angen i gynlluniau Llywodraeth Cymru gynnwys mwy o'r sector preifat.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg na fyddai'r gofynion yn cael eu hymestyn i sectorau eraill, a bod angen annog busnesau yn lle eu cosbi.
Bygwth 'gwrthwynebu'r bil'
Ar hyn o bryd mae rheolau sy'n gorfodi rhai sefydliadau i ddarparu rhai gwasanaethau cyhoeddus trwy'r Gymraeg, ond nid busnesau preifat.
Yn ôl AC Plaid Cymru, Sian Gwenllian, mae camau nesaf y llywodraeth yn ymdrech i "wanio y ddeddfwriaeth bresennol sydd ond yn dechrau gwreiddio".
"Os ydy'r honiadau a'r datganiadau o dŷ'r llywodraeth yn gywir, nag i'r cyfeiriad yna maen nhw'n mynd, yna mi fyddwn ni'n gwrthwynebu'r bil newydd."

Fe wnaeth cadeirydd Trago Mills, Bruce Robertson, gwestiynu'r defnydd o arwyddion dwyieithog
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod enghraifft Trago Mills y diweddaraf mewn cyfres hir o sefyllfaoedd tebyg.
"'Da ni'n cofio Sports Direct yn dweud rhywbeth tebyg llynedd, a Great Western Railways yn dweud rhywbeth tebyg.
"Felly dydy hi ddim yn briodol i feddwl bod pob busnes mawr yn mynd i ddibynnu ar ewyllys da, ac yn mynd i gyflwyno'r Gymraeg ac yn mynd i roi parch dyladwy i'r Gymraeg."
Er nad yw'n anghytuno y gallai fod angen elfen o orfodi busnesau yn y dyfodol, mae Dyfodol i'r Iaith wedi rhybuddio ymgyrchwyr rhag "ffrwydro yn ddifeddwl falle heb wybod popeth".
Dywedodd cadeirydd y grŵp pwyso, Heini Gruffudd, bod cefnogwyr i'r iaith yn "yn arbenigo mewn ymateb fel yna" ac yn "hoffi colli brwydr a phrotestio".
"Nes i y tro yma sgwennu at y cyfaill a ges i ateb digon synhwyrol yn ôl.
"A dwi'n credu bod angen ei oleuo fe. Fe nes i drio ei oleuo fe a mae angen ei oleuo ymhellach, ond dwi'n credu mai dyna'r ffordd i ennill y dydd ar hyn o bryd."

Dywedodd Heini Gruffudd ei fod wedi ysgrifennu at gadeirydd Trago Mills wedi'r feirniadaeth
Mae'r llywodraeth yn paratoi Mesur y Gymraeg - rhan o strategaeth i gyrraedd y nod o filiwn siaradwr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, na fyddai rheolau am wasanaethau Cymraeg yn cael eu hymestyn i sectorau eraill, a bod angen annog busnesau yn lle eu cosbi.
Ychwanegodd y llywodraeth bod y mesur ond yn rhan o'r strategaeth i sicrhau miliwn o siaradwyr, ac y dylai Plaid Cymru aros tan i'r cynllun llawn gael ei gyhoeddi cyn penderfynu ei gefnogi neu ddim.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018

- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018

- Cyhoeddwyd7 Awst 2017
