Achos Carol Boardman: 'Sylw gyrrwr ar ei ffôn'

  • Cyhoeddwyd
Liam Rosney a Victoria Rosney
Disgrifiad o’r llun,

Liam a Victoria Rosney yn cyrraedd Llys y Goron Yr Wyddgrug

Mae rheithgor wedi clywed fod sylw gyrrwr wedi bod ar ei ffôn symudol pan fu mewn gwrthdrawiad laddodd seiclwr 75 oed yn Sir y Fflint.

Bu farw Carol Boardman, mam y seiclwr Olympaidd Chris Boardman, y diwrnod ar ôl y gwrthdrawiad yng Nghei Connah.

Dywedodd yr erlyniad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fod yr achos yn erbyn Liam Rosney o Gei Connah yn "tanlinellu'r peryglon posib sy'n bodoli o ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru".

Mae Mr Rosney yn gwadu cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn ogystal â chyhuddiad arall o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Mae Mr Rosney a'i wraig hefyd yn gwadu cyhuddiadau o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Anafiadau difrifol

Clywodd y llys fod Mrs Boardman wedi syrthio oddi ar ei beic ger cylchdro bychan wrth droi i'r chwith ar ffordd rhwng Yr Wyddgrug a Chei Connah ar 16 Gorffennaf, 2016.

Roedd Liam Rosney yn gyrru i'r cyfeiriad arall mewn cerbyd Mitsubishi a chlywodd y llys iddo fethu a sylwi fod Mrs Boardman wedi syrthio, gan yrru trosti.

Fe wnaeth hi ddioddef anafiadau difrifol gan gynnwys asennau wedi torri a gwaedu mewnol.

Honnai'r erlyniad fod y diffynnydd yn cael sgwrs ffôn gyda'i wraig pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, ac nad oedd sylwi ar y dechrau beth oedd wedi digwydd.

Yn ôl yr erlyniad roedd Mr Rosney a'i wraig, Victoria, wedi dileu data o'u ffonau symudol er mwyn cuddio tystiolaeth am nifer o alwadau rhyngddynt.

Ond mae'r ddau yn gwadu hynny.

Mae Mr Rosney hefyd yn gwadu cyhuddiadau o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Mae'r achos yn parhau.