Chwilio am enillydd £1m Euromillions yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

Cafodd y tocyn lwcus ei dynnu ar nos Wener, 22 Mehefin
Mae'r Loteri Genedlaethol yn apelio ar bobl Ceredigion i wirio eu tocynnau gan fod rhywun wedi ennill £1m, ond heb hawlio eu gwobr eto.
Cafodd y tocyn ei brynu ar gyfer yr EuroMillions ar nos Wener, 22 Mehefin, ac mae'n un o ddau enillodd £1m y noson honno.
Y rhif lwcus ydy MDLG 86259 ac mae gan y person a'i prynodd tan 19 Rhagfyr 2018 i'w hawlio.
Os na fydd y tocyn yn cael ei hawlio mewn pryd, yna bydd yr arian yn mynd i Gronfa Achosion Da'r Loteri Genedlaethol.
Yn ôl Camelot, sy'n rhedeg y loteri, does dim modd dweud ble'n union yng Ngheredigion y cafodd y tocyn ei brynu oherwydd y goblygiadau cyfreithiol tuag at y prynwr.
Dywedodd Andy Carter o'r Loteri Genedlaethol: "Rydyn ni'n annog pawb a brynodd docyn yn yr ardal hon i edrych unwaith eto ar eu tocyn EuroMillions neu chwilio am docyn sydd efallai ar goll.
"Chwiliwch ym mhocedi eich dillad, yn eich waled, bagiau, lawr ochr y soffa... Croesi bysedd y daw'r person lwcus i'r fei a'u bod nhw'n hawlio eu gwobr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2016
