Gwrthod arwydd Saesneg 'yn torri tir newydd'
Mae arolygydd cynllunio annibynnol wedi cefnogi penderfyniad Cyngor Sir Gâr i wrthod caniatâd am arwydd uniaith Saesneg y tu allan i siop newydd Pets at Home yn Cross Hands.
Fe gyflwynodd Pets at Home apêl yn erbyn penderfyniad y cyngor.
Roedd y cwmni eisiau codi arwydd corfforaethol oedd yn cynnwys enw'r cwmni ynghyd â rhai o'r gwasanaethau oedd ar gael tu fewn i furiau'r siop newydd ar ystâd fanwerthu newydd yn Cross Hands.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, y cynghorydd Emlyn Dole, fod y penderfyniad yn un arwyddocaol o ran y Gymraeg.