Cymraes yn ennill Ras yr Wyddfa am y tro cynta ers 1989
Mae Cymraes wedi ennill ras y merched yn Ras y Wyddfa am y tro cyntaf ers 1989.
Merch leol ydy Bronwen Jenkinson, ond mae hi bellach yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Leeds.
Fe orffennodd hi y ras mewn 1.20.44.
Fe fu'n siarad gyda gohebydd BBC Cymru, Llyr Edwards, ar ddiwedd y ras.