Y Gynghrair Genedlaethol: Maidenhead 0-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
National LeagueFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi codi i frig tabl y Gynghrair Genedlaethol ar ôl curo Maidenhead United o 2-0.

Fe roddodd Mike Fondop y Dreigiau ar y blaen wedi 13 munud.

Daeth yr ail 13 munud yn ddiweddarach, diolch i groesiad Jordan Maguire-Drew a aeth i gefn y rhwyd.

Dyw'r Dreigiau heb ildio'r un gôl y tymor hwn eto.