Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad yn ardal Y Rhath, Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Safle'r gwrthdrawiad

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o yrru dan ddylanwad alcohol a gyrru yn ddiofal yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cerbyd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Cafodd James Gadd, 26 o Lanisien, Caerdydd ei arestio yn dilyn y digwyddiad lle cafodd pum person eu hanafu.

Digwyddodd y ddamwain yn ardal Y Rhath am tua 19:00 ger y gyffordd rhwng Heol Richmond, Heol Crwys, Heol Albany a Heol y Ddinas.

Roedd rhaid i'r gwasanaethau brys dorri un dynes allan o'i cherbyd, tra bod pedwar unigolyn arall wedi cael eu trin am fan anafiadau ar y safle.

Mae disgwyl i'r dyn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd ar 5 Medi.