'Cysylltiad' rhwng anhwylder cwsg a gordewdra

  • Cyhoeddwyd
Mike Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mike Morgan wedi cael peiriant sy'n ei gynorthwyo i anadlu tra'n cysgu

Mae nifer y bobl sy'n cael triniaeth ysbyty am anhwylderau cwsg wedi cynyddu o 30% yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Mewn pump o ardaloedd byrddau iechyd oedd â ffigyrau am 2017, fe gafodd 962 o bobl driniaeth o gymharu â 741 yn 2013.

Dywedodd un arbenigwr fod y cynnydd yn rhannol oherwydd y cynnydd mewn gordewdra.

Dywedodd un claf, Mike Morgan fod apnoea cwsg yn golygu ei fod yn stopio anadlu 254 o weithiau bob nos cyn iddo gael triniaeth.

Cafodd Mr Morgan, 72 oed, ddiagnosis o'r cyflwr yn 2015.

Mae Apnoea Cwsg Rhwystrol yn gyflwr cymharol gyffredin lle mae waliau'r llwnc yn ymlacio a chulhau wrth gysgu, gan amharu ar anadlu naturiol.

Dywedodd Mr Morgan: "Roeddwn i'n chwyrnu, disgyn allan o'r gwely...roeddwn i'n deffro yn y bore wedi blino er mod i wedi 'cysgu' am 10 awr."

Bellach mae gan Mr Morgan beiriant CPAP i wisgo yn y nos - sef pwmp sy'n gwthio aer drwy'r llwnc a'i atal rhag cau.

Mae ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru drwy gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod nifer y cleifion a gafodd driniaeth ysbyty yn 2017 ar ei lefel uchaf ers pum mlynedd.

Fe wnaeth 4,712 o bobl hefyd gael apwyntiadau fel cleifion allanol am anhwylderau cwsg ers 2013 yn y pum ardal dan sylw.

Dywedodd Dr Jose Thomas, ymgynghorydd yng nghanolfan cysgu Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, fod cwsg yn rhywbeth sylfaenol i les unigolyn.

"Apnoea Cwsg Rhwystrol yw'r anhwylder mwyaf cyffredin, ac mae achosion yn gysylltiedig â gordewdra.

"Wrth i ordewdra ddod yn fwy amlwg dros y degawdau diweddar, mae amlygrwydd apnoea cwsg hefyd wedi cynyddu."

Dr Jose Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dr Jose Thomas: 'Wrth i ordewdra ddod yn fwy amlwg dros y degawdau diweddar, mae amlygrwydd apnoea cwsg hefyd wedi cynyddu'

Ychwanegodd fod mwy o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd am anhwylderau cwsg, a bod hynny wedi cael effaith ar y ffigyrau hefyd.

Dywedodd fod darpariaeth dda ar draws Cymru o staff meddygol yn delio gydag apnoea cwsg a phroblemau anadlu eraill.