Profiad Dafydd Hughes o syndrom Guillain–Barré

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Profiad Dafydd Hughes o syndrom Guillain–Barré

Mae cyflwr Guillain-Barré yn effeithio ar un ym mhob 100,000 o bobl.

Un o'r rhai sydd wedi cael y salwch yn ddirybudd ydy Dafydd Hughes, sy'n wreiddiol o Langristiolus ym Môn ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae'n gyflwr sy'n achosi i'r system imiwnedd orymateb i firws neu haint ac ymosod ar y system nerfol a gwneud i'r cyhyrau wanhau a stopio gweithio'n iawn.

Mae'n gallu arwain at farwolaeth mewn 7.5% o achosion.

Dechreuodd Dafydd deimlo'n wael ddeuddydd ar ôl cyrraedd adref o daith i ddringo mynydd Kilimanjaro yn Tanzania.

Roedd yn colli ei falans, yn cael trafferth cerdded ac yn teimlo'n sâl.

Ar y dechrau roedd y meddygon yn yr ysbyty yn credu mai effaith yr uchder oedd arno.

Ond pan gollodd ei olwg hefyd fe wnaethon nhw fwy o brofion ac ar ôl dyddiau o geisio dod o hyd i'r ateb fe gafodd ddiagnosis o symdrom Guillain-Barré.

Cafodd ei roi ar ddrip am bump diwrnod cyn i'w gorff ddechrau gwella eto.

Roedd yn ddifrifol wael am bump wythnos a chollodd lawer o bwysau.

Flwyddyn a hanner ers ei salwch mae'n dal i wella a'i nod bellach yw rhedeg marathon ultra.

Mae'n dweud ei stori yn ei eiriau ei hun yn y fideo.