AC: 'Diffyg ewyllys sylfaenol' i'r iaith
Mae yna "ddiffyg ewyllys sylfaenol" ar ran Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ôl un AC.
Dywedodd Sian Gwenllian, AC Arfon, ei bod hi'n "warthus" nad oes raid i staff y Llywodraeth allu dweud 'bore da' hyd yn oed.
"Dwi'n gweld hyn fel arwydd o ddiffyg ewyllys sylfaenol... o ran creu miliwn o siaradwyr," meddai.
Adroddiad Aled ap Dafydd.