'Yng Nghymru mae cynllun myfyrwyr mwyaf hael y DU'

  • Cyhoeddwyd
Darlith
GanBethan Lewis
Gohebydd Addysg BBC Cymru

Wrth i'r drefn newydd o gyllido myfyrwyr ddod i rym dywed yr Ysgrifennydd Addysg ei bod yn fwy hael na'r un cynllun tebyg yn y DU ond mae rhai yn ofni y bydd myfyrwyr yn wynebu mwy o ddyledion.

O dan y drefn newydd does yna ddim grant tuag at ffïoedd dysgu i'r rheini sy'n dechrau yn y brifysgol, ond bydd yna gyfraniad at gostau byw a mwy o gymorth i fyfyrwyr rhan amser.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae lefelau dyled myfyrwyr o Gymru wedi codi i dros £20,000 ar gyfartaledd am y tro cyntaf.

Dywedodd un corff ymchwil bod y drefn newydd yn golygu y byddai myfyrwyr o Gymru yn gadael prifysgol gyda dyledion "llawer iawn yn fwy" nag yn y gorffennol.

Mae ffigyrau Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn dangos bod gan fyfyrwyr o Gymru ar gyfartaledd ddyled o £21,000 pan mae nhw'n dechrau ad-dalu.

Dywedodd Yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: "Rwy'n hollol hyderus bod yr hyn rydyn ni wedi gallu ei gyflwyno yng Nghymru y cynllun mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n unigryw yn Ewrop.

Ennill £25,000 cyn ad-dalu

"Nid yn unig ry'n yn rhoi cymorth i is-raddedigion llawn amser - rydyn ni wedi gallu darparu cymorth ar gyfer myfyrwyr rhan amser ac ar gyfer ôl-raddedigion hefyd."

Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, mae hi wedi gwrando ar arbenigwyr a myfyrwyr ac roedden nhw eisiau cymorth ar gyfer costau byw ar ddechrau eu cyrsiau.

Disgrifiad,

Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn rhoi eu barn ar y drefn gyllido newydd i'r arbenigwr ariannol Lowri Clement

Bydd yn rhaid i fyfyrwyr fenthyg yr arian i dalu am y ffïoedd dysgu i gyd ond pwysleisiodd Kirsty Williams na fydd angen iddyn nhw dalu yr arian yn ôl nes iddyn nhw ddechrau gweithio ac ennill dros £25,000.

"Y bwriad," medd yr arbenigwraig ariannol Lowri Clement, "yw sicrhau bod unrhyw un yn gallu mynd i goleg.

"O'm mhrofiad i dyw myfyrwyr ddim yn becso lawer am y sefyllfa - dyw e ddim yn ddyled sy'n cael ei ystyried fel dyledion eraill mewn bywyd, hynny yw fel dyled cerdyn credyd."

'Myfyrwyr tlotaf ar golled'

Ond mae'r Higher Education Policy Institute yn credu nad yw effeithau negyddol y newidiadau wedi cael digon o sylw.

Yn ôl y Cyfarwyddwr, Nick Hillman mae yna "rai agweddau positif iawn" - er enghraifft, rhoi cymorth i uwchraddedigion a myfyrwyr rhan amser - ond mae'n dweud bod yna lai o arian ar gael i'r myfyrwyr tlotaf fel rhan o'r drefn newydd.

Dywedodd: "Dan yr hen drefn, sydd dal mewn grym i fyfyrwyr ddechreuodd cyn eleni, mae'r myfyrwyr tlotaf yn gallu hawlio hyd at £9,500 trwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau, ond dim ond £9000 sydd ar gael iddynt erbyn hyn."

Ychwanegodd bod y drefn newydd hefyd wedi ei llunio ar y sail na fyddai disgwyl i rieni orfod cyfrannu.

"Y canlyniad yn y pendraw," meddai, "yw y bydd myfyrwyr yn gadael prifysgolion gyda dyledion llawer, llawer, llawer yn fwy nag erioed o'r blaen."

Straeon perthnasol