Gwrthdrawiad angheuol ym maes parcio Asda Tonypandy

  • Cyhoeddwyd
Asda TonypandyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw dyn 82 oed wedi'r gwrthdrawiad ym maes parcio Asda Tonypandy

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ym maes parcio Asda yn Llwynypia, ger Tonypandy ar brynhawn Gwener.

Am 14:10 bu dau gar - Mercedes C270 lliw aur a Mazda 3 coch - mewn gwrthdrawiad.

Derbyniodd gyrrwr un o'r ceir, dyn 82 oed, driniaeth gan barafeddygon a doctoriaid, ond bu farw yno ar leoliad.

Yn ogystal â diolch i aelodau o'r cyhoedd a staff yr archfarchnad am gynorthwyo yn ystod y digwyddiad, mae Heddlu'r De yn gofyn i unrhyw dystion gysylltu â nhw ar 101.