Dynladdiad babi: Dynes yn y llys
- Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi ymddangos yn y llys wedi ei chyhuddo o ddynladdiad ei babi blwydd oed.
Wnaeth Sarah Morris, 34, o'r Stryd Fawr, Bagillt yn Sir y Fflint ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.
Yr honiad yw bod merch Ms Morris, Rosie, wedi boddi mewn bath yn ei chyn-gartref yn Greenfield, Treffynnon ym mis Gorffennaf 2015.
Gofynnodd ei bargyfreithiwr i beidio â chyflwyno'r cyhuddiadau i'w gleient tra'u bod nhw'n aros am ymholiadau pellach, a chafodd y gwrandawiad ei ohirio gan y barnwr.
Cafodd Ms Morris fechnïaeth ddiamod ac fe fydd hi'n ymddangos nesaf ar 20 Rhagfyr.