Disgwyl penderfyniad Cyngor Bro Morgannwg ar safle i sipsiwn

  • Cyhoeddwyd
Protest yn erbyn y safleFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd protest ei chynnal tu allan i swyddfeydd Cyngor Bro Morgannwg yn gwrthwynebu'r cynlluniau

Mae disgwyl i gabinet Cyngor Bro Morgannwg benderfynu ddydd Llun a ydyn nhw am gymeradwyo cynllun gwerth £2.3m i adeiladu safle ar gyfer sipsiwn a theithwyr.

Mae dros 2,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun am safle i 20 o garafanau ar dir gwag yn Sili.

Bwriad y cynllun yw disodli safle anawdurdodedig gerllaw, ac mae eisoes wedi ei drafod gan aelodau pwyllgor craffu ddydd Mercher diwethaf.

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu safleoedd swyddogol i sipsiwn a theithwyr dan gyfraith tai Cymru.

Pryder gwrthwynebwyr yw y gallai lleoli safle o'r fath yn Sili arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a chwymp mewn prisiau tai.

Cynllun o'r safleFfynhonnell y llun, Cyngor Bro Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw codi safle gwerth £2.3m yn lle safle anawdurdodedig gerllaw

Mae ymgyrchwyr hefyd yn dweud gallai arwain at golli cannoedd o swyddi.

Newidiodd ddyn busnes, Andy Ismail, ei feddwl ynglŷn ag adeiladu 44 o unedau busnes yn yr ardal, gan ddweud y byddai safle o'r fath yn effeithio ar farn bobl o'r ardal, ac atal busnesau rhag symud yno.

"[Mae'r cyngor] yn peryglu cannoedd o swyddi posib," meddai.

Mae'r aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am hamdden a diwylliant, Bob Penrose, yn dweud y bydd yn erfyn ar ei gydweithwyr i ailystyried lleoliad y safle yn y cyfarfod ddydd Llun yn sgil "cryfder teimladau" yn lleol.

Ond fe ychwanegodd bod y broses o ddewis safle wedi bod yn un "gymhleth" a bod y safle dan sylw yn "cwrdd â'r gofynion".

Straeon perthnasol