Carcharu dyn am wyth mlynedd am dwyllo gŵr busnes o £1m

  • Cyhoeddwyd
keith morganFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o dwyllo dyn busnes o'r UDA o filiwn o bunnau.

Dywedodd Keith Morgan, 61, wrth Wa'el Chehab fod angen y benthyciad arno er mwyn adeiladu ysbyty i ffoaduriaid yn Nhwrci.

Ond mewn gwirionedd cafodd chwarter yr arian ei wario ar bethau moethus gan gynnwys ceir, beiciau modur, bwytai a gwestai.

Wrth ddedfrydu Morgan, dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei fod yn "ffantasïwr" oedd wedi dweud "celwyddau anferth".

'Tir yn Hollywood'

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Morgan wedi esgus bod yn ddyn cyfoethog iawn, a honni fod ganddo dir yn Hollywood yr oedd am ei ddatblygu.

Dywedodd wrth Mr Chehab y gallai sicrhau credyd gan fanciau er mwyn gallu buddsoddi yn ei gwmni, ac fe lwyddodd i berswadio Mr Chehab i roi benthyg £1m iddo.

Ond mewn gwirionedd roedd Morgan yn fethdalwr, wedi'i wahardd ddwywaith rhag bod yn gyfarwyddwr, ac yn byw yn nhŷ ei dad yn Church Village.

Wedi i Mr Chehab drosglwyddo'r arian i'w gyfrif dechreuodd Morgan ei wario, ond fe aeth ei fanc, Lloyds, yn amheus o'r taliad a rhewi ei gyfrif.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod £750,000 o'r arian wedi cael ei adfer, a'u bod yn gweithio i geisio adfer yr hynny allen nhw o'r gweddill.

Cardiff Crown Court

Cafodd Morgan ei ganfod yn euog o un cyhuddiad o dwyll a dau gyhuddiad o wyngalchu arian, a'i garcharu am wyth mlynedd.

Wrth ddedfrydu Keith Morgan am y twyll, dywedodd y Barnwr Lloyd-Clarke: "Mae'n glir i mi eich bod chi'n ffantasïwr. Roeddech chi'n honni bod yn un o ddynion cyfoethocaf y byd.

"Roeddech chi'n honni bod yn rhyw fath o asiant i Drysorlys yr UDA. Roeddech chi'n honni bod gennych chi gysylltiad ag aelod o deulu brenhinol Saudi Arabia.

"Roedd gennych chi jyst digon o wybodaeth o faterion ariannol i allu dweud eich celwyddau anferth."

Yn ogystal â'i ddedfryd am dwyll, cafodd Morgan ddedfryd o wyth mis am fod â chyllell yn ei feddiant yn swyddfeydd ITV Cymru ym Mae Caerdydd ym mis Medi eleni.