Dyn yn pledio'n euog i lofruddio Hollie Kerrell o Bowys
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Hollie Kerrell ddiflannu o'i chartref ar 22 Ebrill
Mae dyn 35 oed o Bowys wedi pledio'n euog i lofruddio ei wraig, oedd yn fam i dri o blant, yn gynharach eleni.
Cafodd corff Hollie Kerrell, 28, o Drefyclo ei ganfod bedwar diwrnod wedi iddi ddiflannu o'i chartref ym mis Ebrill.
Yn wreiddiol roedd Christopher Kerrell wedi gwadu llofruddio Ms Kerrell, yn ogystal ag ail gyhuddiad o'i lladd yn anghyfreithlon.
Ond wrth ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun, plediodd Kerrell yn euog.
Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Morris wrth Kerrell y dylai ddisgwyl oes yn y carchar, ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu'r wythnos nesaf.

Cafodd Hollie Kerrell ei gweld ddiwethaf yn ei chartref ar ddydd Sul, 22 Ebrill.
Yn fuan wedi hynny cafodd Christopher Kerrell ei arestio, ac ychydig ddyddiau'n ddiweddarach cafodd corff Ms Kerrell ei ddarganfod.
Yn dilyn ei marwolaeth fe wnaeth ei theulu roi teyrnged iddi, gan ddweud ei bod yn "brydferth ac yn caru bywyd".
"Doedd dim un moment diflas gyda'n Hollie doniol ni o'ch cwmpas," meddai'r teulu mewn datganiad.
"Hi oedd y glud oedd yn dal ein teulu at ei gilydd a byddwn yn ei cholli'n ofnadwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2018

- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018
