Cairns yn condemnio iaith 'warthus' yn erbyn Theresa May
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi condemnio'r iaith "warthus" sydd wedi ei defnyddio yn erbyn Theresa May yn ddiweddar.
Yn ôl Alun Cairns mae'n dangos "diffyg parch" i'r prif weinidog wrth iddi gynnal y trafodaethau Brexit.
Roedd yna sôn i Mrs May ddod a'i "rhaff ei hun" i gyfarfod o bwyllgor dylanwadol o ASau Ceidwadol yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae gwleidyddion eraill hefyd wedi beirniadu'r iaith "ffiaidd" a "threisgar" sydd wedi cael ei ddefnyddio.
'Tanseilio'
"Mae'r iaith sydd wedi cael ei wneud yn gwbl anghywir," meddai Mr Cairns.
"Nid yn unig yn erbyn gwleidyddion, nid yn unig yn erbyn y prif weinidog, ond yn fwy pwysig fyth yn erbyn menywod..."
"Maen nhw'n tanseilio'r wlad i gyd. Rwy'n meddwl bod yr iaith sydd wedi cael ei ddefnyddio yn warthus."

Dywedodd llefarydd swyddogol y prif weinidog "nad oes lle o fewn ein gwleidyddiaeth i sylwadau personol maleisus".
Daw'r cyfan yn sgil sïon gan rai dros y penwythnos fod gan Mrs May 72 awr i achub ei swydd, cyn i bwyllgor 1922 y Ceidwadwyr gwrdd i drafod y sefyllfa ddydd Mercher.
I ychwanegu at y bwrlwm gwleidyddol, hefyd dros y penwythnos bu cannoedd o filoedd o bobl yn gorymdeithio yn Llundain yn galw am gynnal refferendwm arall ar unrhyw gytundeb terfynol.
Yn y cyfamser, mae Mrs May wedi dweud wrth aelodau seneddol fod 95% o'r cynlluniau i adael yr UE wedi eu cytuno, ond fod achos y ffin yn Iwerddon yn "parhau yn faen tramgwydd" caled i'w ddatrys.
Yn ôl termau Erthygl 50, mae disgwyl i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth, 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2017

- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018
