'Ry'n ni'n byw ag anghydraddoldeb pob dydd yng Nghymru'
Mae pobl anabl, pobl o leiafrifoedd ethnig a phlant tlawd Cymru yn disgyn ymhellach y tu ôl i weddill cymdeithas, yn ôl adroddiad y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb.
Dywedodd Geraint Hopkins, aelod o bwyllgor Cymru'r comisiwn, eu bod yn galw ar lywodraethau Cymru a'r DU, a phob awdurdod cyhoeddus i weithredu er mwyn dileu anghydraddoldeb.