Heddwas yn ddieuog o ymosod ar fachgen ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd

Cafwyd PC Paul Evans yn ddieuog yng Nghaerdydd ddydd Mercher
Mae heddwas wedi ei gael yn ddieuog o ymosod ar fachgen yn ei arddegau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafwyd y Cwnstabl Paul Evans o Heddlu De Cymru yn ddieuog yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher.
Cafodd ei gyhuddo yn dilyn cwyn am ei ymddygiad.
Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu bod gan PC Evans "achos i'w ateb am gamymddwyn difrifol" a'u bod yn ystyried y camau nesaf gyda'r heddlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018
