Beiciwr mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad yn Nhredelerch

  • Cyhoeddwyd
Heol CaeglasFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Caeglas, Tredelerch brynhawn Sadwrn

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion i wrthdrawiad yn cynnwys beic modur i gysylltu â nhw.

Digwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi 17:00 brynhawn Sadwrn yn Heol Caeglas, Tredelerch ar gyrion Caerdydd.

Cafodd y beiciwr ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac mae'n parhau mewn cyflwr difrifol.

Bu'r ffordd ar gau am bedair awr tra bod yr heddlu'n cynnal ymchwiliadau, ac maent yn galw ar unrhyw un a welodd y beic modur ar hyd yr heol brynhawn Sadwrn i ffonio 101 neu linell Crimestoppers.