Cyflwynydd BBC Top Gear mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd
Porsche

Mae cyflwynydd Top Gear, Chris Harris, wedi bod mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Sir Fynwy.

Roedd Mr Harris yn gyrru Porsche fel rhan o eitem ar gyfer y rhaglen yrru pan fu mewn gwrthdrawiad â thryc ar yr A466 ger Tyndyrn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 13:30 prynhawn dydd Llun.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn ystod y digwyddiad ond cafodd y ddau gerbyd eu difrodi.

Mae'r BBC yn deall bod y tryc yn ganol troi pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, a bod cyflymder ddim yn ffactor.

Yn ôl tyst roedd y Porsche wedi taro'r tryc rhwng yr olwynion blaen a'r rhai cefn.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Top Gear: "Gallwn gadarnhau fod Chris Harris wedi bod mewn damwain car yng Nghymru yn gynharach heddiw... ni chafodd Chris, y teithiwr na gyrrwr y cerbyd arall eu brifo a chafodd Heddlu Gwent eu galw i'r safle."

Ymunodd Mr Harris â Top Gear yn 2016 fel un o'r cyflwynwyr a gymerodd le Jeremy Clarkson, Richard Hammond a James May.

Bydd Freddie Flintoff a Paddy McGuinness yn ymuno ag ef fel cyflwynwyr ar gyfer y 27ain cyfres yn 2019.