Cyhuddo dyn o ladd ei wraig mewn siop sglodion
- Cyhoeddwyd

Roedd Geoff Bran yn rhedeg y Chipoteria yn Hermon gyda'i wraig
Mae perchennog siop sglodion wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio ei wraig.
Bu farw Mavis Bran, 69 oed, ar 29 Hydref, chwe diwrnod wedi iddi ddiodde' anafiadau llosg difrifol mewn digwyddiad yn siop sglodion Chipoteria yn Hermon, Sir Gaerfyrddin.
Cafodd ei gŵr, Geoffrey Bran, sy'n 70 oed, ei arestio wedi'r digwyddiad ar y 23 Hydref a'i ryddhau ar fechnïaeth.
Ond fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ei ailarestio ddydd Iau a'i gyhuddo o lofruddiaeth fore Gwener.

Bu farw Mavis Bran chwe diwrnod wedi iddi gael llosgiadau yn y siop sglodion
Ni wnaeth gyflwyno ple yn y gwrandawiad ddydd Gwener, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa gan yr ynadon.
Bydd Mr Bran yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe fore Llun, 26 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2018

- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2018

- Cyhoeddwyd31 Hydref 2018
