Beirniadu 'diffyg arweiniad' Brexit yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
baneri
GanJames Williams
Gohebydd Brexit BBC Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei beirniadu am fethu a dangos arweinyddiaeth yn ei hymateb i gytundeb Brexit Theresa May.

Ddydd Mawrth, fe fydd y Cynulliad yn cynnal pleidlais ar y cytundeb rhwng llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiodd Plaid Cymru safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyfer y bleidlais yn "gwbl annigonol", tra bod y grŵp ymgyrchu Cymru dros Ewrop yn dweud nad yw'n darparu'r "math o arweiniad cryf ar y mater hwn sydd ei angen ar Gymru".

Dywedodd llefarydd nad yw Llywodraeth Cymru "yn cefnogi'r cytundeb sydd ar y bwrdd."

Ond nid yw'r cynnig a gyflwynwyd gan weinidogion Cymru, dolen allanol ar gyfer y ddadl Brexit yn y Cynulliad yn gwrthod cytundeb Brexit y prif weinidog yn bendant.

Mae rhan o'r cynnig yn nodi nid yw Llywodraeth Cymru yn credu bod y 'datganiad gwleidyddol' - y rhan o gytundeb y prif weinidog gyda thrafodwyr yr Undeb Ewropeaidd sy'n amlinellu dymuniadau'r ddwy ochr ar gyfer y berthynas newydd yn y dyfodol - yn cyrraedd eu gofynion.

Yn siarad cyn y bleidlais, dywedodd Llefarydd Brexit Plaid Cymru Steffan Lewis AC: "Mae'r cynnig mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyflwyno yn gwbl annigonol ac yn cynrychioli methiant i roi arweiniad yn ystod y cyfnod mwyaf arwyddocaol yn hanes datganoli.

"Yr wythnos diwethaf yn San Steffan fe wnaeth Jeremy Corbyn gyhuddo Theresa May o gynnig 'dewislen amwys o opsiynau yn hytrach na chynllun ar gyfer y dyfodol', ond eto yma yng Nghymru mae'r llywodraeth Lafur yn wneud yn union yr un fath."

"Dyw e ddim yn dderbyniol i Lafur gilio rhag materion mwyaf ein hoes gan flaenoriaethu papuro dros y craciau yn eu plaid eu hunain yn hytrach na gweithredu er lles Cymru," ychwanegodd Mr Lewis.

Mae Cymru dros Ewrop - grŵp ymgyrchu sy'n gefnogol o'r Undeb Ewropeaidd ac yn gwthio am refferendwm ar y cytundeb Brexit - wedi cynnig beirniadaeth debyg o gynnig Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Cymru Dros Ewrop: "Nid yw cynnig gwreiddiol Llywodraeth Cymru yn rhoi'r math o arweiniad cryf ar y mater hwn sydd ei angen ar Gymru yn y cyfnod digynsail hwn yn ein hanes.

"Mae angen i'n Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo cynnig cadarn sydd yn pwysleisio i'r cyhoedd yng Nghymru na fydd yn cefnogi'r cytundeb sydd gerbron, na'r cynnig trychinebus o sefyllfa 'dim cytundeb' lle byddwn yn syrthio allan o'r UE.

"Ni fyddai unrhyw un yn prynu unrhyw beth ar sail braslun yn unig o'r dyfodol a nodir yn y Datganiad Gwleidyddol," ychwanegodd.

Mae grŵp UKIP yn y Cynulliad wedi cyflwyno cynnig ar gyfer y ddadl sy'n dweud bod "llywodraethau'r DU a Chymru wedi rhwystro dymuniadau'r 17.4 miliwn o bobl a bleidleisiodd i ymadael" yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm 'nol yn 2016.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi nodi'n glir ein gweledigaeth ar gyfer y berthynas a'r UE yn y dyfodol yn ein dogfen Diogelu Dyfodol Cymru.

"Rydym hefyd wedi bod yn hollol glir nag yw cytundeb ymadael arfaethedig y DU yn darparu'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd sydd eu hangen ar gyfer y tymor hir.

"Felly, ni allwn gefnogi'r fargen sydd ar y bwrdd."

Bydd Aelodau Seneddol yn bwrw pleidlais ynghylch y cytundeb Brexit ar 11eg o Ragfyr.

Fel y mae'n sefyll, mae'n annhebygol y caiff ei dderbyn yn Nhŷ'r Cyffredin gan fod Llafur, yr SNP, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, y DUP a llawer o ASau Ceidwadol wedi dweud y byddant yn pleidleisio yn ei erbyn.

Straeon perthnasol