Diswyddo Hughes wedi diffyg sbarc i dymor Southampton
- Cyhoeddwyd

Mae Southampton wedi diswyddo eu rheolwr Mark Hughes ar ôl iddo fod wrth y llyw am wyth mis.
Fe wnaeth y Cymro ymuno â Southampton ym mis Mawrth dau fis ar ôl cael ei ddiswyddo gan Stoke City.
Roedd Southampton yn wynebu cwympo i'r Bencampwriaeth ddiwedd y tymor diwethaf cyn i Hughes gymryd yr awenau.
Ond mae'r tîm wedi cael dechrau sigledig i'r tymor yma gan ennill dim ond un o 14 gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr, a'u gadael yn y tri isaf.
Hughes oedd rheolwr tîm cenedlaethol Cymru am bum mlynedd rhwng 1999 a 2004.
Bu hefyd yn rheolwr ar Queens Park Rangers, Fulham, Manchester City a Blackburn Rovers.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018

- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2018
