Ymchwiliad heddlu i wrthdrawiad angheuol yn Nhonypandy
- Cyhoeddwyd

Roedd ffordd Princess Louise yn Nhonypandy ar gau am beth amser cyn ailagor brynhawn Sul
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yn Rhondda Cynon Taf fore Sul.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau fod fan Nissan NV 200 wedi gwrthdaro gyda dynes oedd yn cerdded ar Ffordd Princess Louise yn Nhonypandy.
Fe gafodd y ddynes 65 mlwydd oed ei chludo i'r ysbyty, ond bu farw yn ddiweddarach.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd y fan yn cael ei gyrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2018
