Ailagor isgenhadaeth Iwerddon yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Leo VaradkarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cadarnhaodd Leo Varadkar, Taioseach Iwerddon, benderfyniad y llywodraeth i ailagor conswliaeth yng Nghaerdydd

Mae Llywodraeth Iwerddon wedi dweud eu y byddan nhw'n ailagor eu swyddfa conswl yng Nghaerdydd eleni.

Cafodd conswliaeth llywodraeth y wlad yng Nghymru ei chau yn 2009 wedi'r cwymp ariannol.

Yn ôl y Llywodraeth mae'r penderfyniad yn "gydnabyddiaeth gadarn" o bwysigrwydd cadw cysylltiad gwleidyddol ac economaidd rhwng y ddwy wlad wedi Brexit.

Mae disgwyl i'r swyddfa ailagor ym mis Mehefin eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Iwerddon fod ailagor y gonswliaeth yn "allweddol wrth ddyfnhau'r bartneriaeth" gan mai "Cymru yw pedwerydd partner masnachu fwyaf Iwerddon".

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r penderfyniad gan ddweud eu bod mewn "trafodaethau i ddatblygu'r bartneriaeth ymhellach".