Dyn o flaen llys wedi i gar daro plentyn yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr 23 oed o Sir Y Fflint wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl ymddangos o flaen Llys Ynadon Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o daro bachgen 10 oed gyda'i gar.
Mae Keegan Doyle o Frychdyn hefyd yn wynebu cyhuddiadau o fethu â stopio ar ôl damwain, gyrru heb drwydded ac yswiriant ac o gynnau tân yn fwriadol.
Mae'r bachgen 10 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl wedi'r digwyddiad ar Rodfa'r Parc yn Saltney brynhawn Sul.
Bydd Mr Doyle yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 8 Chwefror.
Diogelwch
Roedd yr erlyniad wedi dadlau y dylid ei gadw yn y ddalfa, yn rhannol er ei ddiogelwch ei hun gan fod teimladau cryf o fewn y gymuned yn sgil y digwyddiad.
Fe ymddangosodd Mr Doyle yn y doc gyda llygaid duon ac anafiadau yn dilyn ymosodiad arno.
Ond fe gytunodd yr ynadon i gais ar ei ran am fechnïaeth amodol.
Bydd dynes 27 oed yn mynd o flaen ynadon Yr Wyddgrug ar 18 Chwefror ar ôl cael ei chyhuddo o rwystro swyddog heddlu rhag cyflawni ei swydd.
Cafodd ail ddyn, 30 oed, ei ryddhau gan Heddlu'r Gogledd heb gyhuddiad.
Parhau mae apêl yr heddlu am wybodaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019

- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2019
