Wayne Hennessey: Ymchwiliad i salíwt Natsïaidd honedig

  • Cyhoeddwyd
Wayne HennesseyFfynhonnell y llun, Twitter/Daniel Storey
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun ei rannu ar Twitter wedi iddo gael ei weld ar Instagram

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Lloegr yn ymchwilio i honiad fod golwr Cymru a Crystal Palace, Wayne Hennessey wedi gwneud saliwt Natsïaidd honedig, yn ôl adran chwaraeon asiantaeth newyddion PA.

Mae lluniau wedi ymddangos ar gyfrif Instagram Max Meyer - chwaraewr o'r Almaen - o Hennessey gyda'i fraich dde yn yr awyr.

Mae Hennessey sy'n 31 oed ac sydd wedi ennill 81 o gapiau i Gymru eisoes wedi gwadu ei fod yn gwneud salíwt Natsïaidd.

Mewn neges ar Twitter, ychwanegodd y golwr o Ynys Môn bod y llun yn "gwneud iddi edrych fel fy mod yn gwneud math o salíwt sy'n gwbl anaddas.

"Fyddwn i fyth yn gwneud hynny ac mae unrhyw debygrwydd i ystum o'r fath yn gwbl ar ddamwain," meddai.

Mae'r llun bellach wedi diflannu oddi ar Instagram.

Straeon perthnasol