'Amodau anodd i'r Cymry chwarae ym Murrayfield'

Wedi i Gymru drechu Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad bydd y chwaraewyr yn paratoi ar gyfer ennill y Gamp Lawn yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn nesaf.

Dywedodd y mewnwr Gareth Davies bod y tywydd wedi gwneud y chwarae ym Murrayfield yn anodd ar brydiau.