CFfI Felin-fach yn bencampwyr hanner awr adloniant Cymru
- Cyhoeddwyd

Geraint Lloyd, Llywydd CFfI Cymru yn cyflwyno'r wobr i glwb Felin-fach yn Y Drenewydd nos Sadwrn
Mae yna gryn ddathlu yn Nyffryn Aeron yng Ngheredigion wedi i Glwb Ffermwyr Ifanc Felin-fach ennill cystadleuaeth cyfrwng Cymraeg hanner awr adlonaint Cymru yn Y Drenewydd dros y penwythnos.
Yn ôl Llywydd CFfI Cymru, Geraint Lloyd, mi fyddai'n beth da darlledu'r gystadleuaeth ar y teledu.
Wrth siarad â Cymru Fyw ddydd Sul dywedodd Mr Lloyd: "Mi fyddai'n beth da petai'r cyfan yn cael ei ddarlledu ar y cyfryngau - roedd y safon yn wych ac mi fyddai'n dda o beth petai cynulleidfa ehangach yn cael gweld y cyfan.
"Mae'r 'Steddfod yn cael cryn sylw, wrth gwrs, ond mi fyddai'n wych petai'r hanner awr adloniant hefyd."
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae S4C yn rhoi sylw helaeth i Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc bob blwyddyn. Tra'n bod ni'n gwerthfawrogi gweithgarwch a phwysicrwydd Mudiad y Ffermwyr Ifanc nid yw'n bosib rhoi sylw i bob digwyddiad.
"Mae S4C yn gweld y bartneriaeth gyda Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn un bwysig a gwerthfawr a bydd hynny yn parhau am y blynyddoedd i ddod."
'Profiad ffab'
Yn ystod y penwythnos mae cystadleuaeth perfformio hanner awr o adloniant y CFfI yn cael ei chynnal yn Theatr Hafren, Y Drenewydd.
Ddydd Sadwrn roedd y perfformiadau cyfrwng Cymraeg yn cystadlu a gydol ddydd Sul tro'r perfformiadau cyfrwng Saesneg fydd hi i ddiddanu'r gynulleidfa a phlesio'r beirniad.
Clwb Ffermwyr Felin-fach oedd yn fuddugol ddydd Sadwrn ac yn ôl un o aelodau'r clwb mae ennill y wobr yn "ffab".

Alaw Fflur Jones a gafodd ei dewis i fod yn aelod iau CFfI Cymru
Dywedodd Alaw Fflur Jones wrth Cymru Fyw: "Dyma'r tro cyntaf i'r clwb gystadlu ar lefel Cymru wedi i ni ennill ar lefel Ceredigion wythnos ddiwethaf.
"Roedd ein hanner awr yn sôn am drip Ysgol Sul go helbulus - a Mr Bean yn cael sylw mewn un olygfa."
Alaw hefyd, sy'n ddisgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Aberaeron, a enillodd y gystadleuaeth i fod yn aelod iau CFfI Cymru.
"Fi jyst ffili credu'r cyfan," meddai, ac mae'n annog unrhyw un i fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifainc er mwyn cael mwynhau amrywiol brofiadau.
Clwb Bro Ddyfi, Maldwyn oedd yn ail yn y gystadleuaeth hanner awr adloniant ac roedd Clwb Pen-y-bont o Sir Gaerfyrddin yn drydydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2018

- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2015
