Un wedi marw ar ôl gwrthdrawiad A4232 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae un person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd ddeuol yng Nghaerdydd.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans bod dau berson hefyd wedi eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru wedi'r gwrthdrawiad am tua 16:30.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4232 rhwng Croes Cwrlwys a Lecwydd.
Roedd y ffordd ynghau am rai oriau wrth i'r gwasanaethau brys ddelio gyda'r digwyddiad, gan achosi tagfeydd yn yr ardal.