'Sioc enfawr' wedi llofruddiaeth Cathays yng Nghaerdydd

Mae un fyfyrwraig wedi disgrifio'r "sioc enfawr" o glywed fod dyn wedi'i lofruddio yn ardal Cathays yn oriau mân fore Sul.

Mae Cathays yn ardal sy'n agos iawn at gampws y brifysgol ac mae'n ardal boblogaidd o ran myfyrwyr.

Fe gafodd yr heddlu eu galw toc cyn 00:30 fore Sul wedi adroddiadau fod dyn wedi'i drywanu. Bu farw'r dyn yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae dau ddyn 18 ac 19 oed wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac maen nhw wedi'u cadw yn y ddalfa.

Dyma ymateb Anna Hughes sy'n fyfyrwraig yng Nghaerdydd i'r digwyddiad.