Disgwyl colli 129 o swyddi wrth i ffatri gau yn Llanelwy

  • Cyhoeddwyd
HoneywellFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Byddai cau'r safle yn "ergyd fawr" i economi gogledd Cymru, yn ôl Peter Hughes

Mae disgwyl i tua 130 o swyddi gael eu colli yn Llanelwy wrth i gwmni, sy'n arbenigo mewn nwyddau electroneg, benderfynu cau'r safle yno.

Y gred yw y bydd Honeywell (MK Electric) yn cyhoeddi eu bwriad i gau'r safle gynhyrchu brynhawn Llun, hynny wedi cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod.

Mae 129 o staff llawn amser yn gweithio i Honeywell yno, yn ogystal â nifer o staff asiantaeth.

Dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol undeb Unite Cymru, y byddai'r penderfyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi mewn cyfarfod am 15:00.

Yn ôl datganiad gan gwmni Honeywell ym mis Mawrth, eu bwriad yw symud y gwaith o'r safle yn Llanelwy er mwyn "cryfhau eu prif brosesau cynhyrchu mewn llai o leoliadau".

Ychwanegodd y datganiad mai'r bwriad yw cynnig i'r gweithwyr symud i safleoedd eraill yn y DU - naill ai yn Surrey, Essex neu Helsby - neu i safleoedd eraill dramor.

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd Mr Hughes y byddai cau'r safle yn "ergyd fawr i'r gweithlu rhagorol a'r economi yng ngogledd Cymru yn ehangach".

Straeon perthnasol