'Mae'r celfyddydau wedi cael ei anghofio'

Mae un ardal yng ngogledd Cymru wedi penderfynu mynd i'r afael â'r broblem o brinder disgyblion sy'n defnyddio offerynnau llinynnol trwy gynnig hyfforddiant soddgrwth (cello) am ddim am 12 mis.

Ar ôl cynnal cyfres o weithdai ar draws yr ardal, mae 50 o ddisgyblion eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gwersi, sydd wedi'u trefnu gan Wasanaethau Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.

Mae gwersi am ddim yn cael eu cynnig ar y soddgrwth i ddechrau, ond mae cynlluniau i ehangu i offerynnau llinynnol eraill yn fuan.

Bu'r tiwtor fydd yn eu dysgu - Elin Haf Taylor - yn cynnal gweithdai yn ysgolion yr ardal yn ddiweddar, gyda dros 50 o blant bellach wedi cofrestru am wersi.

Fel cerddor proffesiynol ei hun, mae Elin yn poeni am yr effaith ehangach os na fydd modd denu mwy o blant i chwarae.