Dau yn pledio'n ddieuog i lofruddiaeth dyn yn Cathays
- Cyhoeddwyd

Mae teulu Fahad Mohamed Nur wed ei ddisgrifio fel person "hael a charedig"
Mae dau ddyn o Gaerdydd wedi pledio'n ddieuog i lofruddiaeth dyn 18 oed yn y ddinas fis diwethaf.
Bu farw Fahad Mohamed Nur yn yr ysbyty wedi i'r heddlu ei ddarganfod wedi ei drywanu sawl tro ger gorsaf drenau Cathays yn oriau mân ddydd Sul 2 Mehefin.
Cafodd Abdulgalil Aldobhani, 22, a Shafique Shaddad, 24, eu cadw yn y ddalfa ar ôl gwadu llofruddio Mr Nur mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Casnewydd ddydd Llun.
Bydd yr achos llawn yn erbyn y ddau a dau ddiffynnydd arall yn dechrau yn Llys Y Goron Caerdydd ar 25 Tachwedd.
Mae trydydd dyn, Mustafa Aldobhani, 21 oed a heb gartref sefydlog, hefyd wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Wnaeth ef ddim cyflwyno ple ddydd Llun gan fod angen asesu tystiolaeth CCTV cyn i'w gynrychiolwyr cyfreithiol benderfynu a ddylid ymgeisio i ddileu'r cyhuddiad yn ei erbyn.
Plediodd menyw 34 oed o Birmingham, Aseel Arar yn ddieuog i gyhuddiad o roi cymorth i droseddwr.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2019

- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019
