RGC yn penodi Matt Silva fel prif hyfforddwr newydd
- Cyhoeddwyd

Mae Matt Silva wedi cael ei benodi fel prif hyfforddwr newydd ar Glwb Rygbi Gogledd Cymru.
Bydd Silva yn olynu cyn-asgellwr tîm rygbi Cymru, Mark Jones ar ôl iddo gamu o'r neilltu ym mis Mai wedi tair blynedd gyda'r clwb yn Uwch Gynghrair Cymru.
Mae gan Silva brofiad o arwain tîm yn yr Uwch Gynghrair wedi cyfnod fel prif hyfforddwr ym Mhen-y-bont am dair blynedd.
Dywedodd Silva: "Mae derbyn y rôl yma yn her enfawr, ond hefyd yn rhywbeth hynod gyffrous. 'Dwi methu aros i ddechrau ar y gwaith."
Bydd Latham Tawhai yn parhau fel hyfforddwr yr amddiffyn, tra bod Phil John yn gadael ei rôl fel hyfforddwr y blaenwyr ar ddiwedd mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2019
