Cofnodi brwydr Rorke's Drift yn y Sioe Frenhinol
Un o atyniadau mawr y Sioe Frenhinol ddydd Llun oedd seremoni ar y cyd rhwng y Zulu a chatrawd y Cymry Brenhinol i nodi 140 o flynyddoedd ers brwydr Rorke's Drift.
Roedd Brenin y Zulu, Goodwill Zwelithini yn bresennol yn ogystal â'r Tywysog Charles.
Digwyddodd brwydr Rorke's Drift yn 1879 pan lwyddodd 150 o filwyr Prydeinig i wrthsefyll dros 4,000 o filwyr Zulu.
Roedd nifer o Gymry yn rhan o'r frwydr.
Cafodd 11 o fedalau Croes Fictoria eu rhoi i'r ymladdwyr - y nifer fwyaf ar gyfer un frwydr unigol yn hanes milwrol Prydain.